Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Lang o Monkton 
 Pwyllgor Cyfansoddiad
 Tŷ’r Arglwyddi

                                                                                               10 Tachwedd 2016

Annwyl Arglwydd Lang

 

Bil Cymru Llywodraeth y DU a chydweithio yn y dyfodol  

 

Rwy'n ysgrifennu atoch i fynegi fy niolch diffuant am gynnal cyfarfod o'n pwyllgorau priodol i drafod Bil Cymru Llywodraeth y DU. Fe'i cawsom yn sesiwn hynod o werthfawr.

O'n safbwynt ni, roedd yn dangos yn glir y manteision o gydweithio a chydweithredu rhwng pwyllgorau seneddol yng Nghaerdydd a San Steffan ar faterion o ddiddordeb cyffredin.

Fel yn achos y pwyllgor sy'n ein rhagflaenu, hoffem ddatblygu'r cysylltiadau hyn ymhellach dros y blynyddoedd nesaf.

Mae ein gwaith ar Fil Cymru wedi tynnu sylw at faterion sy'n ymwneud â gwaith rhynglywodraethol y credwn y mae angen ymchwilio iddynt ymhellach, yn enwedig yn sgil y trafodaethau y bydd angen eu cynnal rhwng Llywodraeth  DU a Llywodraeth Cymru o ganlyniad i benderfyniad y DU i ymadael â'r UE. 

Rydym felly wrthi'n llunio cylch gorchwyl er mwyn cynnal ymchwiliad i wneud gwaith rhynglywodraethol a rhyngseneddol. Rydym yn ymwybodol o'r

gwaith ardderchog y mae eich pwyllgor eisoes wedi'i wneud o ran cysylltiadau rhynglywodraethol. Ar ôl inni gael gwybod yn well sut yn union y mae ein gwaith yn debygol o ddatblygu a sut y gall hyn ychwanegu at yr hyn sydd eisoes wedi'i wneud, byddwn yn rhannu ein syniadau â chi (a phwyllgorau seneddol eraill sy'n ymddiddori mewn materion cyfansoddiadol) er mwyn gwella'r cydweithrediad hwn yn fwy byth.

Yn gywir

Huw Irranca-Davies AC

Cadeirydd